P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Katie Phillips, ar ôl casglu 156 o lofnodion ar-lein a 72 ar bapur, sef cyfanswm o 228 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu uwchraddio Gorsaf Reilffordd Trefforest i alluogi myfyrwyr anabl i gael mynediad i Brifysgol De Cymru mewn modd cynaliadwy a chydag urddas.

Gorsaf reilffordd Trefforest yw'r prif fynediad o ran trafnidiaeth gyhoeddus i Brifysgol De Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi addo buddsoddi mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru fel rhan o raglen wella 15 mlynedd ond, i lawer o bobl ifanc anabl sy'n dymuno cael mynediad i addysg brifysgol yn annibynnol, bydd y gwelliannau hyn yn rhy hwyr.

Mae'r trefniadau presennol yn yr orsaf yn golygu bod yn rhaid i bobl anabl alw am help ac yna aros i staff yr orsaf fwy na lai eu cario ar draws y bont droed. Mae hyn yn amhriodol ac yn is na'r safonau mynediad y dylem eu disgwyl ar gyfer pobl anabl yn yr 21ain ganrif. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwelliannau i orsaf Trefforest, yn benodol i ddarparu mynediad addas i bobl anabl.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​Dechreuodd y prif ddeisebydd y ddeiseb hon ar ôl bod yn dyst i'r darpariaethau mynediad i'r anabl cyfredol ar waith yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Methodd y ddarpariaeth yr hyn y byddai am ei weld ar gyfer ei ffrindiau a'i theulu ag anableddau, yn enwedig y rhai na fyddai'r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol ar eu cyfer.

 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol i alluogi pobl anabl i gael mynediad at addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill. O ystyried y cyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru am welliannau a gynlluniwyd, mae'n ymddangos yn gwbl resymol i'r orsaf allweddol hon fod yn flaenoriaeth, cyn derbyn y garfan nesaf o fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu haddysg brifysgol ym mis Medi 2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru